Mae ambell enw annisgwyl yng nghabinet Micheal Martin, Taoiseach neu brif weinidog newydd Iwerddon.

Enwi ei gabinet yw un o’i dasgau cyntaf yn ei swydd newydd, ar ôl i’r prif bleidiau ddod i gytundeb ar lywodraeth glymblaid ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 27).

Dyma grynodeb o’r penodiadau:

Helen McEntee – Gweinidog Cyfiawnder

Cafodd Helen McEntee, 34 oed o Navan, ei hethol i’r senedd yn 2013, a’i phenodi’n weinidog iechyd meddwl a phobol hŷn yn 2016.

Mae hi’n gyn-aelod o’r Pwyllgor Trafnidiaeth a Chyfathrebu, a’r Pwyllgor Amgylchedd, Diwylliant a’r Gaeltacht.

Paschal Donohoe – Gweinidog Cyllid

Mae Paschal Donohoe yn dal ei afael ar ei swydd flaenorol, un o ddau weinidog sy’n cael aros yn eu swyddi.

Cafodd ei ethol i’r Dáil yn 2011 ac i’r Seanad Eireann yn 2007.

Un o’i dargedau y llynedd oedd gostwng dyledion Iwerddon, sydd wedi cynyddu eto yn sgil y coronafeirws.

Roedd yn Weinidog Trafnidiaeth, Twristiaeth a Chwaraeon rhwng 2014 a 2016, ac yn Weinidog Materion Ewropeaidd yn 2013-14.

Leo Varadkar – Tanaiste (Diprwy Arweinydd) a Gweinidog Menter a Busnes

Leo Varadkar yw cyn-arweinydd Iwerddon, sydd wedi’i olynu gan Micheal Martin ond mae e wedi cael lle yn y llywodraeth newydd fel rhan o’r cytundeb clymblaid.

Mae’n olynu’r Tanaiste blaenorol Simon Coveney.

Daeth yn Taoiseach ieuengaf Iwerddon yn 2017, ac yntau’n 38 oed ar y pryd.

Mae’n fab i nyrs o Iwerddon a meddyg o India, ac fe ddaeth yn aelod o Fine Gael pan oedd yn astudio meddygaeth yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.

Cafodd ei benodi i’r senedd yn wreiddiol yn Weinidog Trafnidiaeth a Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae’n ddyn hoyw ac wedi ymgyrchu tros briodasau o’r un rhyw.

Simon Coveney – Gweinidog Materion Tramor

Dirprwy arweinydd Fine Gael yw Simon Coveney o ddinas Cork, ac yntau wedi bod yn Tanaiste (Dirprwy Arweinydd) yn llywodraeth Leo Varadkar.

Bu’n Weinidog Materion Tramor ers 2017.

Cafodd ei ethol i’r senedd mewn is-etholiad yn dilyn marwolaeth ei dad, Hugh Coveney.

Cafodd ei benodi’n Weinidog Amaeth yn y llywodraeth yn 2011 ac yna’n Weinidog Amddiffyn yn dilyn ad-drefnu’r llywodraeth yn 2014.

Michael McGrath – Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio

Michael McGrath o Cork yw cyn-lefarydd cyllid Fianna Fáil.

Cafodd ei ethol i’r senedd yn 2007.

Bu’n aelod o sawl pwyllgor seneddol, gan gynnwys y Pwyllgor Cyllid, ymchwiliad bancio Oireachtas a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Norma Foley – Gweinidog Addysg

Yr athrawes ysgol uwchradd Norma Foley o Kerry yw’r Gweinidog Addysg newydd.

Mae’n ferch i Denis Foley, cyn-aelod seneddol Fianna Fáil.

Cafodd ei hethol yn gynghorydd yn Tralee yn 1994, ac roedd hi’n ymgeisydd aflwyddiannus yn etholiad cyffredinol 2007.

Mae’n cynrychioli etholaeth Kerry ers mis Chwefror, ac mae hi’n aelod o’r pwyllgor seneddol sy’n ymateb i’r coronafeirws.

Darragh O’Brien – Gweinidog Tai

Darragh O’Brien sydd â’r cyfrifoldeb o fynd i’r afael ag argyfwng tai Iwerddon erbyn hyn, ac mae’n aelod o blaid Fianna Fáil.

Mae’n olynu Eoghan Murphy (Fine Gael), oedd yn weinidog pan gododd digartrefedd y wlad i lefelau newydd.

Cafodd ei ethol yn gynghorydd yng Ngogledd Dulyn yn 2004 cyn mynd i’r senedd yn 2007.

Roedd yn arweinydd Fianna Fáil yn y Seanad o 2011 i 2016 ac yn aelod o’r Panel Llafur am bum mlynedd.

Bu’n gweithio yn y sector gwasanaethau cyllid cyn dod yn wleidydd.

Stephen Donnelly – Gweinidog Iechyd

Llefarydd iechyd Fianna Fáil yw Stephen Donnelly, y Gweinidog Iechyd newydd.

Mae’n aelod o’r Dáil dros Wicklow a Dwyrain Carlow ers 2011 ac yn ymgyrchydd ar fater sgandal sgrinio ar gyfer canser ceg y groth.

Cafodd ei ethol am y tro cyntaf yn aelod annibynnol cyn ffurfio’r Democratiaid Sosialaidd yn 2015 ac ennill sedd ar ran y blaid y flwyddyn ganlynol.

Ond fe ddaeth yn annibynnol eto cyn ymuno â Fianna Fáil yn 2017.

Bu’n gweithio ym meysydd ecwiti preifat, manwerthu, isadeiledd cyhoeddus, gofal iechyd, addysg, datblygu rhyngwladol, a’r sectorau gwirfoddol a chymdeithasol.

Barry Cowen – Gweinidog Amaeth

Barry Cowen, aelod Fianna Fáil o’r Dáil, yw’r Gweinidog Amaeth newydd, ac yntau’n gyn-lefarydd Gwariant Cyhoeddus a Diwygio’r blaid.

Mae’n cynrychioli ardal Laois/Offaly yn y Dáil.

Mae’n frawd i Brian Cowen, y cyn-Taoiseach, ac roedd eu tad Bernard yn aelod o’r Dáil am rai blynyddoedd.

Cyn dod yn wleidydd, roedd e’n ocsiwniar ac yn gweithio ym maes prisio creiriau.

Ymhlith heriau mwyaf ei adran newydd mae’r hinsawdd a Brexit.

Eamon Ryan – Gweinidog Gweithredu ar yr Hinsawdd

Eamon Ryan, arweinydd y Blaid Werdd, yw’r Gweinidog Gweithredu ar yr Hinsawdd newydd.

Bu’n arwain y Blaid Werdd ers 2011.

Cyn hynny, roedd yn Weinidog Cyfathrebu, Ynni a Chyfoeth Naturiol o 2007 i 2011, pan oedd ei blaid mewn clymblaid â Fianna Fáil.

Mae’n dod o Ddulyn, ac fe aeth i’r byd gwleidyddol yn 1998 yn gynghorydd yn y ddinas.

Fe fydd e’n herio’r dirprwy Catherine Martin ar gyfer arweinyddiaeth y blaid.

Simon Harris – Gweinidog Addysg Uwch

Simon Haris o Wicklow yw’r Gweinidog Addysg Uwch newydd.

Mae’n symud o’r Weinyddiaeth Iechyd.

Cafodd ei ethol i’r Dáil dros Wicklow yn 2011 a fe oedd yr aelod ieuengaf ar y pryd.

Mae’n gyn-Weinidog Gwariant Cyhoeddus a Gweithfeydd Cyhoeddus.

Roderic O’Gorman – Gweinidog Plant, Anableddau a Chydraddoldeb

Roderic O’Gorman yw’r Gweinidog Plant, Anableddau a Chydraddoldeb newydd.

Cafodd ei ethol i’r Dáil tros Orllewin Dulyn ym mis Chwefror.

Mae’n gyn-ddarlithydd y Gyfraith Ewropeaidd yn Sefydliad Brexit Prifysgol Dinas Dulyn.

Heather Humphreys – Gweinidog Materion Gwledig

Mae Heather Humphreys o sir Monaghan wedi symud o faes Busnes i Faterion Gwledig.

Bu’n gyfrifol yn y gorffennol am y Celfyddydau, a Menter a Busnes.

Catherine Martin – Gweinidog Diwylliant

Catherine Martin, dirprwy arweinydd y Blaid Werdd, yw’r Gweinidog Diwylliant newydd a bydd ganddi gyfrifoldeb am Ddiwylliant, y Celfyddydau, y Cyfryngau, Twristiaeth a Chwaraeon.

Mae hi ar fin lansio’i hymgyrch i herio Eamon Ryan am arweinyddiaeth y blaid.

Dara Calleary – Prif Chwip

Dirprwy arweinydd Fianna Fáil yw Dara Calleary o sir Mayo.

Roedd disgwyl iddo ennill ei le yn y cabinet newydd, ond mae e wedi cael ei wfftio wrth gyhoeddi’r llywodraeth.

Bu’n aelod o’r Dáil ers 2007, ac yntau wedi bod yn Weinidog Mentergarwch, Masnach a Chyflogaeth, gyda chyfrifoldeb arbennig am faterion llafur.

Swyddi eraill

Daw Pippa Hackett yn ddirprwy Weinidog Amaeth gyda chyfrifoldeb arbennig am ddefnyddio tir a bioamrywiaeth.

Hildegarde Naughten, aelod Fine Gael o’r Dáil, yw’r is-ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Awyrennau a’r Môr.