Mae dau o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn digwyddiad mewn canolfan ddosbarthu yng ngogledd Califfornia.

Fe wnaeth dyn 31 oed yrru i mewn i’r ganolfan a dechrau saethu, gan ladd gweithiwr ac anafu pedwar o bobol eraill cyn iddo yntau gael ei ladd gan yr heddlu.

Fe ddechreuodd y digwyddiad yng nghanolfan ddosbarthu Walmart ger dinas Red Bluff brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 27).

Mae lle i gredu bod y saethwr wedi gyrru o amgylch y maes parcio bedair gwaith cyn taro i mewn i’r adeilad a dechrau saethu.

Martin Haro-Lozano yw enw’r gweithiwr 45 oed fu farw yn y digwyddiad.

Dydy enw’r saethwr ddim wedi cael ei gyhoeddi.

Does dim rhagor o fanylion am gyflwr y pedwar a gafodd eu cludo i’r ysbyty.

Bu’n rhaid i oddeutu 200 o weithwyr gloi eu hunain mewn ystafell yn ystod yr ymosodiad.