Mae lle i gredu mai Micheál Martin fydd Taoiseach, neu Brif Weinidog, newydd Iwerddon.
Daw’r newyddion ar ôl i bleidiau Fine Gael, Fianna Fáil a’r Blaid Werdd ddod i gytundeb ynghylch y llywodraeth glymblaid newydd ar ôl cryn drafod.
Fianna Fáil enillodd y nifer fwyaf o seddi yn yr etholiad ym mis Chwefror, ond fe fu’n rhaid gohirio’r trafodaethau ynghylch y llywodraeth yn sgil y coronafeirws.
Ymhlith blaenoriaethau’r llywodraeth newydd fydd lleihau allyriadau carbon, trafnidiaeth gynaladwy ac adfer yr economi yn dilyn y coronafeirws.
Mae disgwyl i’r Dáil, neu’r senedd, gyfarfod yn llawn heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 27) cyn i’r Arlywydd Michael D Higgins roi ei sêl bendith i’r llywodraeth newydd a’r gweinidogion yn cael eu penodi’n ddiweddarach.
Y tebygolrwydd yw mai’r cyn-arweinydd Leo Varadkar fydd y dirprwy arweinydd newydd.