I nodi diwrnod cenedlaethol Catalwnia, mae disgwyl i hyd at ddwy filiwn o bobl heidio i Barcelona er mwyn galw am annibyniaeth.

Yn ogystal ag annibyniaeth, bydd y rali hefyd yn galw am gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Bydd y digwyddiad yn arwain at Etholiad Seneddol Catalwnia a gaiff ei chynnal ar 27 Medi, pan fydd y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yn ymuno â’i gilydd er mwyn cael mandad i gyflawni eu nod.

Cafodd refferendwm answyddogol ei chynnal ym mis Tachwedd y llynedd a phleidleisiodd dros 80% o Gatalwniaid o blaid annibyniaeth, er i Sbaen gyhuddo’r refferendwm o fod yn un anghyfreithlon.

Edrych ymlaen at y rali

Mae Jan Bosch de Doria, sy’n dod o Gatalwnia ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd yn cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia.

“Mae nod y brotest yn glir. Bydd pobl Catalwnia yn gorymdeithio er mwyn ceisio adeiladu mwyafrif ar gyfer creu Gweriniaeth Catalaneg yn yr etholiadau ar 27 Medi,” meddai wrth golwg360.

“Mae fy nheulu a’m ffrindiau i gyd yn teithio i Barcelona heddiw i fynd i’r rali. Mae awyrgylch bod rhywbeth cyffrous yn mynd i ddigwydd. Mae llawer o siarad am hyn yn y newyddion, ddim yn unig yng Nghatalwnia ond yn Sbaen hefyd.”

Mae Jan Bosch de Doria am weld annibyniaeth yn dod i Gatalwnia er mwyn cael mwy o gyfleoedd am swyddi, mae’n honni bod arian y rhanbarth i gyd yn mynd i Madrid a bod hyn wedi arwain at lefel uchel o ddiweithdra ymysg pobl ifanc.

Er mae sawl un wedi siarad yn erbyn annibyniaeth i Gatalwnia gan ddweud y byddai ond yn ateb dros dro i broblemau’r wlad ac na fyddai’n datrys ei holl broblemau.