Mae lle i gredu bod gan ddyn a gafodd ei daclo gan deithwyr ar drên rhwng Amsterdam a Paris, gysylltiadau ag Islam.
Roedd Ayoub El-Khazzani, 26, yn cludo dryll Kalashnikov ar y trên ac mae’n bosib ei fod yn bwriadu teithio i Syria.
Daeth i’r amlwg fod yr heddlu yn Ffrainc, Gwlad Belg a Sbaen yn monitro’i symudiadau.
Dywedodd yr awdurdodau yn Ffrainc fod awdurdodau Sbaen wedi rhoi gwybodaeth iddyn nhw am y dyn.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.
Mae El-Khazzani bellach yn cael ei holi gan heddlu gwrth-frawychiaeth yn Ffrainc ac fe ddaeth i’r amlwg ei fod wedi cael ei holi ganddyn nhw fis Chwefror y llynedd.
Mae lle i gredu ei fod yn byw yn ne Sbaen, ac mae’n aelod o fosg sydd dan oruchwyliaeth yr heddlu.