Mae myfyrwraig o brifysgol yng Nghymru wedi marw ar ddechrau trip blwyddyn yn Awstralia.

Mae cyd-fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi talu teyrngedau i’r ferch 20 oed a oedd yn astudio’r cyfryngau a chyfathrebu.

Roedd Vicky Atlay yn cyfrannu’n gyson at sianel deledu’r myfyrwyr SU-TV ac mae tudalen Facebook y sianel bellach yn cynnwys neges o gydymdeimlad.

‘Caffaeliad’

“Roedd hi’n gaffaeliad anferth i SU-TV,” medden nhw, tra bod swyddogion yn y Brifysgol hefyd wedi anfon neges o gydymdeimad at y teulu.”

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod Vicy Atlay wedi marw yn Awstralia ddydd Mawrth a’u bod yn cynng cymorth i’r teulu.

Does dim amheus am ei marwolaeth, meddai’r Swyddfa.