Mae dau ffrwydrad mewn dwy orsaf fws brysur yn Nigeria wedi lladd bron i 30 o bobl, gan anafu 100 o bobl eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaethau brys y wlad fod o leiaf 29 o bobl wedi eu lladd mewn ffrwydradau yn Gombe. Maen nhw’n galw am gyflenwadau gwaed ar frys i drin y bobl sydd wedi’u hanafu.

Daw’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau gwaedlyd gan eithafwyr Islamaidd wrth i Arlywydd newydd Nigeria rybuddio bod gwrthwynebiad yr Unol Daleithiau, i werthu arfau strategol yn rhwystro’u brwydr yn erbyn y grŵp eithafol Boko Haram.

Galwodd yr Arlywydd Muhammadu Buhari, wrth ymweld â Washington yr wythnos hon, ar yr Unol Daleithiau i fod yn fwy hyblyg ynglŷn â’r gyfraith sy’n atal gwerthu arfau i wledydd sydd â milwyr sydd wedi’u cyhuddo o droseddau difrifol yn erbyn hawliau dynol.