Loriau yn ciwio yn Calais
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May gynnal trafodaethau ym Mharis heddiw wrth i’r argyfwng yn Calais waethygu.
Fe fydd Theresa May yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cartref Ffrainc, Bernard Cazeneuve, wrth i’r streic gan weithwyr fferi yn Calais barhau i amharu ar wasanaethau o Dover.
Mae miloedd o yrwyr loriau wedi parcio ar yr M20 yng Nghaint am y pedwerydd diwrnod wrth i’r streic ym mhorthladd Calais amharu ar wasanaethau fferi.
Mae miloedd o fewnfudwyr sy’n gwersylla ger y porthladd yn Ffrainc wedi bod yn manteisio ar y ciwiau hir i geisio cuddio ar loriau sy’n teithio i’r DU.
Dywedodd swyddogion ym mhorthladd Dover bore ma nad oedden nhw’n gwybod pryd fyddai’r gweithredu diwydiannol yn dod i ben. Dyma’r ail streic gan weithwyr fferi MyFerryLink o fewn wythnos. Maen nhw’n protestio yn erbyn diswyddiadau posib yn y porthladd.
Mae’r Gymdeithas Cludiant Ffyrdd wedi galw ar lywodraethau’r DU a Ffrainc i anfon y lluoedd arfog i ddelio a’r sefyllfa.
“Rhaid i ni ddatrys yr anhrefn yma rŵan a chynnal trafodaethau am atebion hir dymor wedyn,” meddai’r prif weithredwr Richard Burnett.
Cafodd y blocâd ei godi yn rhannol am 6yh neithiwr, gan adael i gwmni llongau P & O ailddechrau gwasanaeth cyfyngedig.