Alexis Tsipras (PA)
Mae arweinwyr Ewropeaidd wedi mynnu bod angen i Wlad Groeg ddod i gytundeb ar daclo a newid amodau ei dyled erbyn y penwythnos.

Dim ond pedwar diwrnod sydd i fynd nes bod Groeg yn gorfod talu dyled o €1.6bn (£1.1bn) i’r Gronfa Ariannol Gydwladol (IMF).

Os na chaiff y ddyled honno ei thalu, fe fydd Groeg yn wynebu’r peryg o fethdalu ac yna gorfod gadael yr Ewro a pheryglu ei lle o fewn yr Undeb Ewropeaidd ei hun.

Mae gwledydd Ewrop eisoes wedi cytuno i roi cymhorthdal o €7.2bn (£5.1bn) i helpu Groeg yn ariannol, ond dim ond ar yr amod ei bod hi’n torri rhagor ar wario – ar ben toriadau llym iawn sydd eisoes wedi bod.

Trethi a thoriadau

Mae’r IMF, Comisiwn Ewrop a Banc Canolog Ewrop eisoes wedi gosod eu telerau nhw ar y cyd i brif weinidog Groeg Alexis Tsipras.

Mae’n cynnwys galw am doriadau yn syth gan gynnwys i bensiynau, yn ogystal â chodi trethi gwerthiant a chael gwared â rhai eithriadau i dalu trethi.

Ond hyd yn hyn dyw llywodraeth adain chwith Groeg ddim wedi derbyn y gofynion, gan fynnu bod Ewrop a’r banciau yn bod yn rhy llym eu gofynion.

“Mae hanes Ewrop yn llawn anghytuno a thrafod ac, ar y diwedd, cyfaddawdu. Felly, ar ôl cynigion cynhwysfawr Groeg, rydw i’n hyderus y down ni i gyfaddawd,” meddai Alexis Tsipras.

Ond roedd gweinidog cyllid yr Almaen Wolfgang Schaeuble yn llai sicr o ddod i gytundeb, gan ddweud bod llywodraeth Athens wedi “symud am yn ôl” a bod cyfrifoldeb am ddod i gyfaddawd “yn dibynnu’n llwyr ar y rheiny sy’n gyfrifol yng Ngroeg”.

Pleidlais ddydd Llun

Bydd yn rhaid i senedd Groeg basio pleidlais erbyn dydd Llun yn cymeradwyo unrhyw gytundeb ariannol gydag Ewrop.

Fel arall fe fyddan nhw methu talu arian yr IMF – y Gronfa Ariannol Ryngwladol – yn ôl erbyn dydd Mawrth, ac mae’r IMF eisoes wedi dweud na fydd y wlad yn cael unrhyw amser ychwanegol i dalu ei dyledion.

Byddai methdalu a gadael yr Ewro yn debygol o achosi trafferthion economaidd pellach yng Ngroeg, ac mae’n debygol y gallai hynny effeithio ar farchnadoedd y byd hefyd.