Loriau yn ciwio yn Calais
Mae’r mesurau argyfwng gafodd eu gosod ar draffordd yr M20 wedi cael eu codi bellach ar ôl 36 awr, yn dilyn trafferthion ym mhorthladd Calais yn Ffrainc.

Dim ond loriau oedd yn teithio tuag at Dwnnel y Sianel oedd yn cael teithio ar y draffordd yn ystod y cyfyngiadau, ond mae’r ffyrdd bellach ar agor yn iawn unwaith eto.

Cafodd y cyfyngiadau ar yr M20 tuag at yr arfordir yng Nghaint eu codi yn gynnar y bore yma.

Roedd loriau wedi bod yn ciwio ar ddwy ochr y Sianel ddoe ar ôl i’r twnnel gael ei gau yn dilyn streic gan weithwyr fferi yn Calais ar ddydd Mawrth.

Llwyddodd y streicwyr i gael mynediad i geg y twnnel, gan achosi i wasanaethau rhwng Dover a Calais gael eu hatal.

Mae’r digwyddiad hefyd wedi achosi anhrefn wrth i fewnfudwyr yn ardal Calais, sydd wedi bod yn ceisio dianc i Brydain, neidio mewn i’r loris oedd yn aros yn y porthladd.