Francois Hollande
Mae Arlywydd Ffrainc Francois Hollande wedi dweud bod honiadau bod Asiantaeth Ddiogelwch yr Unol Daleithiau wedi ysbio arno a’i ddau ragflaenydd yn “annerbyniol” ac na fydd yn caniatáu unrhyw beth sy’n bygwth diogelwch y wlad.

Mewn datganiad yn dilyn cyfarfod brys y bore ma dywedodd Hollande bod Ffrainc wedi cyflwyno mesurau llymach i amddiffyn y wlad.

Daeth y cyfarfod ar ôl i WikiLeaks gyhoeddi dogfennau o 2006-12 y mae’n honni sy’n profi fod Asiantaeth Ddiogelwch Genedlaethol yr Unol Daleithiau wedi ysbio ar Arlywydd Ffrainc a’i ddau ragflaenydd.

Mae’r deunydd sydd wedi cael ei ryddhau yn ymddangos fel petai swyddogion ym Mharis yn siarad yn agored am economi Gwlad Groeg, cysylltiadau â’r Almaen ac, yn eironig, strategaeth ysbïo yr Americanwyr.

Mae Ffrainc ar fin cynnal pleidlais ar fil a fyddai’n caniatáu pwerau gwyliadwriaeth ehangach, yn benodol i geisio atal ymosodiadau brawychol a bygythiadau eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran WikiLeaks, Kristinn Hrafnsson, ei fod yn hyderus bod y dogfennau yn ddilys.

Mae llefarydd ar ran Nicolas Sarkozy wedi dweud bod y cyn-Arlywydd yn ystyried y dulliau hyn o ysbio yn annerbyniol, yn enwedig gan gynghreiriad.

Doedd dim sylw chwaith gan Jacques Chirac, oedd hefyd wedi cael ei dargedu yn ôl y sôn.