Senedd Gwlad Groeg
Mae cynlluniau i ddiwygio economi Gwlad Groeg yn cynnwys mesurau “llym” na fyddai llywodraeth y wlad wedi cynnig petai wedi cael dewis, meddai llefarydd heddiw.

Yr wythnos hon, mae’r wlad wedi cynnig cyfres o fesurau, gan gynnwys codi trethi, i berswadio credydwyr i ryddhau arian i wneud yn siŵr nad yw’r wlad yn methu talu  ei dyledion.

Roedd y credydwyr, sy’n cynnwys gwledydd ym mharth yr ewro a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), wedi mynnu diwygiadau a fyddai’n sicrhau fod economi Gwlad Groeg yn gallu bod yn gynaliadwy ac ni fyddai’n llithro yn ôl mewn i arferion drwg o orwario a arweiniodd at ei argyfwng ariannol yn y lle cyntaf.

Ond mae Llywodraeth Gwlad Groeg wedi dadlau fod y cynigion yn ddiangen o lym – yn enwedig gan fod economi’r wlad wedi lleihau o chwarter yn y pum mlynedd diwethaf.

Ar ôl cyfres o gyfarfodydd ym Mrwsel ddoe, dywedodd credydwyr Ewropeaidd fod y cynigion newydd yn gosod sylfaen dda ar gyfer cytundeb yr wythnos hon – wedi pedwar mis o drafod.

Mae gweinidogion cyllid parth yr ewro i fod i gyfarfod eto nos yfory cyn uwchgynhadledd o arweinwyr Ewropeaidd ddydd Iau.

Mae cynigion Gwlad Groeg yn cynnwys hyd at €8 biliwn o fesurau, gan gynnwys cynnydd i’r dreth ar werth, trethi ychwanegol ar incwm o fwy na €50,000 y flwyddyn a chodi rhagor o drethi ar gwmnïau.

Enillodd y blaid asgell chwith, Syriza, etholiadau’r wlad ym mis Ionawr gydag addewid y byddai’n diddymu mesurau llymder gafodd eu cyflwyno gan lywodraethau blaenorol yn gyfnewid am help llaw gwerth €240 biliwn ers Mai 2010.

Ond gyda chredydwyr yn dal y rownd derfynol o €7.2 biliwn mewn benthyciadau yn ôl, a choffrau’r wlad bron yn sych, mae’r Prif Weinidog Alexis Tsipras wedi cael ei orfodi i gefnu ar lawer o’i addewidion yn y gobaith o sicrhau cytundeb.

Mae Gwlad Groeg yn wynebu €1.6 biliwn o ad-daliad i’r IMF ar Fehefin 30 – swm na all ei fforddio.