O wefan yr Adran Diogelwch Cartref
Mae hacwyr o China yn cael eu hamau o dorri mewn i system gyfrifiadurol sydd yn eiddo i lywodraeth yr Unol Daleithiau a dwyn data dros bedwar miliwn o bobol.
Yn ôl yr Adran Diogelwch Cartref, cafodd data’r gweithwyr eu dwyn o swyddfa bersonél y llywodraeth, ac mae’r FBI yn ymchwilio.
Ond mae’r amheuaeth wedi troi at China eisoes trwy Susan Collins, Gweriniaethwr sydd yn aelod o bwyllgor cudd-wybodaeth y Senedd.
Dywedodd hi fod y digwyddiad yn “arwydd pellach o bŵer tramor yn chwilota’n llwyddiannus ac yn canolbwyntio ar ddata a allai arwain at bobol sydd â gwybodaeth”.
Effeithio rhagor?
Yn ôl Ken Ammon, prif swyddog strategaeth cwmni diogelwch meddalwedd Xceedium, fe allai’r wybodaeth gafodd ei ddwyn gael ei ddefnyddio i ddynwared neu flacmelio gweithwyr y llywodraeth sy’n defnyddio gwybodaeth sensitif.
“Mae hyn yn ymosodiad yn erbyn y wlad,” meddai Ken Ammon.
Mae’n debyg fod yr adran dan sylw wedi cael ei thargedu gan hacwyr o’r blaen, ac mae’r Unol Daleithiau’n wyliadwrus tu hwnt o’r bygythiad o ymosodiad digidol o China.