Gwersyll Auschwitz
Fe fydd dyn 93 oed yn sefyll ei brawf yn yr Almaen heddiw i wynebu 300,000 cyhuddiad o gynorthwyo i lofruddio yn dilyn honiadau ei fod wedi gweithio yng ngwersyll crynhoi Auschwitz.

Mae Oskar Groening wedi’i gyhuddo o fod yn swyddog yn Auschwitz rhwng mis Mai a mis Mehefin 1944 pan gafodd tua 425,000 o Iddewon o Hwngari eu cludo yno a chafodd o leiaf 300,000 eu lladd yn fuan ar ôl iddyn nhw gyrraedd.

Dywed erlynwyr fod Oskar Groening wedi helpu i gasglu arian ac eiddo’r Iddewon yn y gwersyll. O ganlyniad fe roddwyd yr enw “Cyfrifydd Auschwitz” iddo.

Nid yw Groening yn gwadu gwasanaethu fel swyddog yn Auschwitz ond mae’n dweud nad oedd wedi cyflawni unrhyw drosedd.

Mae disgwyl iddo ymateb i’r cyhuddiadau pan fydd yr achos yn dechrau yn ne Hambwrg heddiw.