g
Mae tystiolaeth bellach yn profi fod un o beilotiaid yr awyren Germanwings a blymiodd i ochr mynydd yn yr Alpau y mis diwetha’, wedi troi’r sbardun ymlaen er mwyn ei gwneud i fynd yn gynt.

Fe ddaeth y wybodaeth newyss wrth i asiantaeth BEA ymchwilio un o focsus duon yr awyren.

Mae’n brawf pellach, meddai’r ymchwilwyr fod y peilot wedi bwriadu i’r awyren ddisgyn i’r ddaear, a’i fod a’i fryd ar ei ladd ei hun. Dydyn nhw eto ddim wedi dod i gasgliad ynglyn a’i resymau tros achosi’r ddamwain.

Fe gafodd pob un o’r 150 0 deithwyr a chriw a ar fwrdd Hediad 9525 o Barcelona i Dusseldorf eu lladd yn y digwyddiad ar Fawrth 24.