Yr Yemen
Mae’r rhyfel cartref yn y Yemen wedi troi yn ymrafael ehangach rhwng Iran a Sawdi Arabia am ddylanwad yn y Dwyrain Canol.

Yn ôl sianel Al Jazeera, mae awyrennau Sawdi wedi parhau i fomio gwrthryfelwyr ac mae arweinydd milwrol y wlad yn dweud y byddan nhw’n “dal ati gyhyd ag sydd angen”.

Bellach, mae’n ymddangos bod arlywydd y wlad wedi dianc o Yemen i brifddinas Sawdi Arabia.

Iran yn flin

Mae Iran yn flin am fod Sawdi Arabia wedi cynnal y cyrchoedd awyr yn erbyn gwrthryfelwyr Shi’iaidd yn Yemen, gyda’r Aifft hefyd yn bwriadu lansio ymgyrch filwrol yno.

Yn ôl Iran, mae “hwn yn gam peryglus” ac mae prisiau olew wedi codi’n gyfym yn Efrog Newydd a Llundain yn dilyn y bomio.

Mae’n ymddangos bod Arlywydd Yemen, Abed-Rabbo Mansour Hadi, wedi ffoi o’r wlad i brifddinas Sawdi Arabia ddoe, gydag adroddiadau yn dweud fod gwrthryfelwyr Shi’iaidd yr Houthi yn prysur ehangu eu tiriogaeth o’u cadarnle ym mhorthladd Aden.

Y cyrchoedd

Dechreuodd y cyrchoedd awyr yn fuan fore ddoe, gyda awyrennau bomio Sawdi yn targedu meysydd milwrol ym mhrifddinas Yemen, Sanaa.

Daeth adroddiadau fod nifer o gartrefi ger y maes awyr wedi’u chwalu, gydag o leia’ 18 o bobol, yn cynnwys chwech o blant wedi’u lladd.

Mae arweinydd y gwrthryfelwyr, Abdul-Malik al-Houthi, wedi cyhuddo’r Unol Daleithiau, Sawdi Arabia ac Israel o lansio ymgyrch “dreisgar” ac “anghyfiawn” yn Yemen.

“Fydd pobol Yemen ddim yn derbyn y fath sarhad,” meddai.

Ffydd neu rym gwleidyddol?

Y tu cefn i’r ymrafael, mae gwrthdaro cred hefyd, gydag Iran yn cael ei gweld yn arweinydd Mwslemiaid Shia a Sawdi Arabia’n arwain y garfan Sunni.

Yn ddiweddar, mae Iran wedi bod yn rhoi arian ac arfau i’r gwrthryfelwyr yn Yemen.

Ond, yn ôl un arbenigwraig ar sianel newyddion Al Jazeera, mae’r gwrthdaro ffydd yn cuddio’r ffaith mai ymrafael gwleidyddol yw hwn rhwng dwy wlad Fwslemaidd gryfa’r rhanbarth.