Gwraig Mutah al-Kaseasbeh yn cael ei chysuro o dan lygaid y camerau (Llun PA)
Mae teuluoedd dau o wystlon sydd yn nwylo’r mudiad milwrol Islamaidd IS yn dal i aros i glywed a ydyn nhw’n fyw.

Does dim newyddion wedi bod am y gwystlon o Japan a gwlad yr Iorddonen ers i derfyn amser ar gyfer taro bargen fynd heibio.

Roedd IS wedi rhybuddio y byddai peilot milwrol o’r Iorddonen yn cael ei ladd os nag oedd llywodraeth y wlad yn rhyddhau aelod o IS sydd yn y carchar yno am geisio cymryd rhan mewn ymosodiad.

Bodlon cyfnewid

Mae’r Iorddonen wedi dweud eu bod nhw’n fodlon rhyddhau Sajida al-Rishawi ond eu bod eisiau tystiolaeth i ddechrau fod y peilot, Mutah al-Kaseasbeh, yn fyw.

Yn Japan, roedd gwraig newyddiadurwr sy’n wystl wedi gwneud apêl munud ola’ am ei ryddhau yntau – mae un dyn o Japan eisoes wedi cael ei ladd gan IS.

Yn ôl Llywodraeth Japan y bore yma, does ganddyn nhw ddim byd newydd i’w ddweud am dynged Kenji Goto.