Mae’r “rhan fwyaf” o declynnau recordio o’r awyren Malaysia Airlines gafodd ei saethu yn nwyrain yr Wcrain ddoe wedi cael eu canfod, yn ôl gwrthryfelwyr sydd yn rheoli’r ardal.

Yn ôl llefarydd ar ran arweinydd y milwyr, Igor Girkin, maen nhw wedi canfod wyth o’r 12 teclyn recordio oedd ar yr awyren wedi iddi gwympo i’r ddaear ddoe.

Bu farw 295 o deithwyr ar yr awyren wedi iddi gael ei saethu lawr, a’r gred yw bod naw o Brydeinwyr ymysg y meirw.

Mae’r gwrthryfelwyr dal yn ystyried a ydyn nhw am adael i ymchwilwyr ddod i archwilio’r safle ble disgynnodd yr awyren.

Mae’r ardal yn nwyrain yr Wcrain wedi’i rheoli gan y gwrthryfelwyr pro-Rwsia ers sbel, ac fe fyddai angen eu caniatâd cyn gallu dechrau ffilmio a thynnu lluniau yn yr ardal yn saff.

Dirgelwch

Mae’r Wcrain wedi mynnu nad eu lluoedd arfog nhw a saethodd at yr awyren, a hyd yn hyn dyw awdurdodau cudd-wybodaeth yr UDA ddim eto wedi gallu dweud pwy oedd yn gyfrifol.

Dywedodd arlywydd Rwsia Vladimir Putin mai’r Wcrain oedd yn “gyfrifol” am y ddamwain gan ei bod wedi digwydd dros ei thir hi.

Yn ôl adroddiadau mae gweddillion yr awyren wedi eu gwasgaru ar draws gaeau sydd filltiroedd oddi wrth ei gilydd, sy’n awgrymu bod yr awyren wedi malu yn ddarnau cyn taro’r ddaear.

Ni anfonwyd unrhyw neges yn dweud fod yr awyren mewn trafferthion cyn iddi gwympo i’r ddaear, yn ôl Prif Weinidog Malaysia.

Roedd y llwybr a hedfanodd yr awyren arni wedi cael ei nodi fel un saff gan yr awdurdodau rhyngwladol, ac roedd awyrennau eraill wedi dilyn yr un llwybr oriau ynghynt.

Dyma’r ail waith o fewn ychydig fisoedd i drychineb daro awyren Malaysia Airlines, ar ôl i awyren MH370 ddiflannu ym mis Mawrth heb unrhyw rybudd.

Y gred oedd ei bod wedi newid cyfeiriad a chwympo i’r môr yng nghefnfor India, ond dyw ei gweddillion dal heb gael eu canfod.