Mae Sais a chyfarwyddwr un o bartneriaid lletygarwch FIFA, MATCH, wedi cael ei arestio ym Mrasil fel rhan o ymchwiliad i werthu tocynnau anghyfreithlon.

Cafodd Ray Whelan, oedd yn arfer gweithio fel asiant i Syr Bobby Charlton, ei arestio ym Mhalas Copacabana yn Rio de Janeiro, y gwesty sydd wedi cael ei neilltuo i uwch swyddogion FIFA.

Mae Ray Whelan wedi cael ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Jules Rimet gan heddlu Brasil i  i werthu tocynnau anghyfreithlon. Mae 12 o bobl wedi cael eu harestio i gyd.

Daw’r newyddion wrth i dîm Brasil baratoi at chwarae yn erbyn Yr Almaen yn y rownd gynderfynol heno.