Marseille
Mae dyn wedi cael ei arestio ym mhrif orsaf fysiau Marseille yn Ne-ddwyrain Ffrainc ynglyn â’r ymosodiad ar amgueddfa Iddewig ym Mrwsel bythefnos yn ôl.

Cafodd tri o bobl eu saethu’n farw yn ystod yr ymosodiad wnaeth ddim ond parhau am rhyw funud.

Yn ôl swyddog yn y ddinas, cafodd y dyn ei arestio wrth i swyddogion y tollau gynnal archwiliad yn yr orsaf sydd gerllaw’r harbwr.

Roedd y dyn yn cario gwn otomatig a rifolfer tebyg i’r rhai ddefnyddiwyd ym Mrwsel ac mae nhw’n cynnal profion ar yr arfau ar hyn o bryd i ganfod os mai dyma’r union ynnau ddefnyddiwyd.

Roedd y dyn wedi cyrraedd Marseille ar fws o Amsterdam oedd wedi stopio ym Mrwsel.

Mae’r awdurdodau ym Mrwsel yn amau bod yr ymosodiad yn un gwrth-Iddewig.