Nid oes unrhyw arwyddion o’r awyren Malaysia Airlines ger y safle lle’r oedd delweddau lloeren wedi dangos yr hyn a allai fod yn weddillion awyren.

Dywedodd yr awdurdodau ym Malaysia eu bod nhw wedi chwilio’r safle ond nad oedd unrhyw beth i’w weld.

Mae’r dirgelwch ynglŷn â beth ddigwyddodd i’r awyren Boeing 777, a oedd yn cludo 239 o bobol, yn parhau. Mae’r Wall Street Journal wedi adrodd bod ymchwilwyr yn yr Unol Daleithiau yn amau bod yr awyren wedi teithio am bedair awr ar ôl iddi golli cysylltiad radar.

Mae swyddogion gwrthderfysgaeth yn America yn ystyried a oedd y peilot neu rywun arall ar fwrdd yr awyren wedi torri’r cysylltiad yn fwriadol er mwyn dargyfeirio’r awyren.

Nid oes cysylltiad wedi bod gyda’r awyren ers iddi adael Kuala Lumpur ar ei thaith i Beijing yn gynnar fore Sadwrn.