Miloedd mewn peryg, meddai Ban Ki-moon

Mae’r gymuned ryngwladol wedi cynyddu’r pwysau ar y Cyrnol Gaddafi yn Libya ynghanol pryder fod newyn a syched yn bygwth y miloedd o ffoaduriaid sy’n gadael y wlad.

Fe benderfynodd holl aelodau’r Cenhedloedd Unedig – gan gynnwys ffrindiau traddodiadol Gaddafi – y dylai Libya gael ei diarddel am y tro o Gyngor Hawliau Dynol y CU.

Yn ôl Ysgrifennydd Tramor Gwledydd Prydain, William Hague, roedd y penderfyniad yn neges glir i Lywodraeth Libya y dylen nhw wrando ar wledydd y byd.

“Fydd troseddau ddim yn osgoi cosb nac yn cael eu hanghofio,” meddai. “Fe fydd galw i gyfri ac mae braich cyfiawnder rhyngwladol yn cyrraedd ymhell.”

‘Dim ymyrryd ar hyn o bryd’

Mae Senedd yr Unol Daleithiau hefyd wedi pasio cynnig yn condemnio’r Cyrnol Gaddafi am droseddau difrifol yn erbyn hawliau dynol.

Fe ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol America, Hillary Clinton, fod Libya bellach yn wynebu’r dewis rhwng troi’n wlad ddemocrataidd heddychlon, ar un llaw, a rhyfel cartref, ar y llall.

Ond fe ddaeth awgrym o Washington hefyd nad yw gwledydd y gorllewin yn debyg o ymyrryd yn filwrol ar hyn o bryd.

Yn groes i Ysgrifennydd Tramor Gwledydd Prydain, William Hague, mae’r Unol Daleithiau’n credu y byddai angen penderfyniad gan y Cenhedloedd Unedig cyn rhwystro awyrennau rhag hedfan tros Libya.

‘Miloedd o fywydau mewn peryg’

Erbyn hyn, mae miloedd o bobol bob dydd yn llifo allan tros ffiniau Libya, gyda bron 100,000 wedi crynhoi yn Tunisia.

Fe rybuddiodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig bod peryg o argyfwng dyngarol yno, gyda phobol heb lety na bwyd na diod.

“Mae miloedd o fywydau mewn peryg,” meddai Ban Ki-moon. “Mae’n rhaid mai ein blaenoriaeth bwysica’ yw darparu cymorth brys – bwyd, diod a lloches.”

  • Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, mae miloedd o filwyr y gwrthryfelwyr yn crynhoi yn nwyrain y wlad, gyda’r bwriad o geisio ymosod ar luoedd y Cyrnol Gaddafi yn y brifddinas, Tripoli.