Effaith y corwynt (Gwifren PA)
Mae o leiaf ddau o bobol wedi marw wedi i un o’r corwyntoedd mwyaf pwerus erioed daro Ynysoedd y Philipinas.

Mae mwy na 125,000 o bobol wedi cael eu symud o drefi a phentrefi sy’n llwybr y corwynt a oedd yn chwythu ar gyflymder o 170 milltir yr awr pan gyrhaeddodd y tir.

Yn eu plith roedd miloedd o drigolion Bohol sydd wedi bod yn byw mewn pebyll a llochesi dros dro ers i ddaeargryn oedd yn mesur 7.2 ar y raddfa Richter daro’r ynys fis diwethaf.

Tua Fietnam

Oherwydd ei bod yn croesi ynysoedd heb fynyddoedd uchel, mae’n debyg nad yw’r storm yn colli llawer o’i chryfder.

Dyma’r  bedwaredd storm ar hugain i daro Ynysoedd y Philipinas eleni am mae disgwyl i’r storm chwythu tuag at Fietnam dros y penwythnos