Symbol o'r difrod - gweddillion meindwr yr eglwys gadeiriol (mathinbgn CCA2.0)
Mae nifer y bobol sydd wedi marw yn naeargryn Seland Newydd wedi codi i 113 gyda dau Brydeiniwr ymysg y meirw.

Mae mwy na 200 o bobol yn dal i fod ar goll hefyd a’r gobaith o’u cael yn fyw yn cilio’n gyflym.

Fe fu farw’r cogydd Gregory Tobin, 25 oed o Tadcaster yng Ngogledd Swydd Efrog, yn y daeargryn yn Christchurch ddydd Mawrth. Does dim manylion am yr ail berson o wledydd Prydain.

Yn ôl llefarydd ar ran Uchel Gomisiwn Prydain, Chris Harrington, mae dau berson arall o wledydd Prydain ymhlith y rhai sydd ar goll.

“Roedden nhw’n teithio ar fws gafodd ei chwalu gan rwbel yn disgyn,” meddai.

Mae timau achub o sawl rhan o’r byd gan gynnwys naw o dde Cymru’n parhau i chwilio am oroeswyr yn Christchurch – 228 yw’r ffigwr diweddara’ ar gyfer y rhai sydd ar goll.

Mae’r awdurdodau’n credu bod hyd at 120 o bobol yn parhau i fod yn sownd dan weddillion adeiliad Canterbury Television lle’r oedd ysgol iaith gyda nifer o fyfyrwyr o wledydd Asia yn dysgu Saesneg.

Mae swyddogion wedi dweud bod disgwyl i nifer y meirw godi ac fe ddywedodd Gweinidog Tramor Seland Newydd, Murray McCully, eu bod nhw’n paratoi i roi gwybod i deuluoedd o nifer o wledydd am farwolaeth perthnasau.