Vietnam
Mae Vo Nguyen Giap, y gwrthryfelwr a yrrodd y Ffrancwyr o Fietnam i ryddhau’r wlad o reolaeth trefedigaethol, wedi marw yn 102 mlwydd oed.

Yn ddiweddarach yn ei oes bu’n rhan o’r ymdrech i orfodi’r Americanwyr  i roi’r gorau i’w hymdrechion i achub y wlad rhag Comiwnyddiaeth.

Bu farw Giap heddiw mewn ysbyty milwrol yn y brifddinas, Hanoi, lle’r oedd wedi bod am bron i bedair blynedd yn dioddef o salwch tymor hir, meddai’r awdurdodau.

Disgybl Ho Chi Minh

Roedd Giap yn arwr cenedlaethol ac mae ei enwogrwydd yn ail yn unig i’w fentor, Ho Chi Minh, a arweiniodd y wlad i annibyniaeth.

Daeth i amlygrwydd tra’n arwain byddin o wrthryfelwyr gwerinol oedd yn gwisgo sandalau wedi eu gwneud o deiars ceir ac a gariodd eu gynau mawrion fesul darn dros fynyddoedd i amgylchynu’r fyddin Ffrengig yn Dien bien Phu yn 1954.

Fe wnaeth y fuddugoliaeth annhebygol, sy’n dal i gael ei hastudio mewn ysgolion milwrol, arwain at annibyniaeth i Fietnam a sbarduno digwyddiadau eraill tebyg  ar draws ardal ehangach.

Trechu’r Iancs

Aeth Giap ymlaen i drechu llywodraeth De Fietnam a byddin yr Unol Daleithiau yn Ebrill 1975 gan ail uno gwlad oedd wedi ei rhannu’n ddwy. Roedd yn derbyn colledion trwm mewn brwydrau yn rheolaidd er mwyn cyrraedd ei nod.

“Does dim rhyfel arall am ryddid cenedlaethol wedi bod mor ffyrnig ac wedi achosi cymaint o golledion na’r rhyfel hwn,” meddai Giap yn un o’i gyfweliadau olaf yn 2005.

“Ond fe wnaethon ni barhau i ymladd oherwydd i Fietnam, does dim yn fwy gwerthfawr nag annibyniaeth a rhyddid,” meddai, gan ailadrodd dyfyniad enwog gan Ho Chi Minh.