Mumbai
Mae ymgyrch i achub degau o bobol o adeilad aml-lawr yn Mumbai wedi iddo ddisgyn y bore yma.

Roedd o leiaf 80 o bobol yn yr adeilad ac mae o leiaf un person wedi marw yn ôl Alok Awasthi, pennaeth lleol y Fyddin Adweithio i Drychinebau Rhyngwladol. Maen nhw wedi achub saith hyd yn hyn.

Disgynnodd yr adeilad preswyl pum llawr ychydig wedi chwech y bore ar Ffordd Dockyard yn nwyrain Mumbai.

Dyma’r adeilad diweddaraf i ddisgyn ym mhrifddinas India eleni ar ôl i adeilad gwaith ddisgyn ym mis Ebrill gan ladd 72 o bobol.  Honnir mai adeiladu wedi eu codi gyda deunyddiau o safon isel yw’r rheswm am hyn.