Mae Arlywydd yr Aifft Mohammed Morsi wedi cael ei arestio ar ôl i luoedd y wlad ei orfodi i ildio’r awenau ddoe.

Fe gyhoeddodd y lluoedd arfog y bydd llywodraeth dros dro yn cymryd lle Mohammed Morsi, yr arlywydd cyntaf i gael ei ethol yn ddemocrataidd yn y wlad.

Dim ond blwyddyn yn ôl y daeth yr arweinydd Islamaidd i rym.

Bu miliynau o bobl, oedd yn gwrthwynebu llywodraeth Morsi, yn dathlu ar Sgwâr Tahrir yn Cairo neithiwr ar ôl iddo gael ei ddisodli.

Cafodd milwyr a cherbydau milwrol eu hanfon ar strydoedd Cairo ac amgylchynu protestiadau Islamaidd. Bu gwrthdaro mewn nifer o ddinasoedd ar ôl i gefnogwyr Morsi danio gynnau at yr heddlu. Mae’n debyg bod o leiaf naw o bobl wedi’u lladd.

Yn ôl adroddiadau mae Mohammed Morsi yn cael ei gadw yn ei dy a chafodd 12 o swyddogion eraill yr arlywydd hefyd eu harestio.

Mae’r datblygiadau diweddaraf yn dilyn pedwar diwrnod o brotestiadau tebyg i’r rhai a arweiniodd at ddisodli’r arweinydd blaenorol Hosni Mubarak.

Roedd pobl yr Aifft yn anhapus bod Mohammed Morsi yn rhoi gormod o rym i’w blaid, Y Frawdoliaeth Fwslimaidd a’i fod wedi methu mynd i’r afael a phroblemau economaidd y wlad.

Dywedodd Arlywydd America Barack Obama ei fod yn “bryderus iawn” am y datblygiadau diweddaraf ac mae wedi galw ar luoedd y wlad i drosglwyddo grym yn ôl i lywodraeth ddemocrataidd cyn gynted â phosib.