Fflamau Arizona (Llun Associated Press)
Mae 19 o ddiffoddwyr tân wedi cael eu lladd yn dilyn tân naturiol gwyllt yn Arizona yn yr Unol Daleithiau.

Yn ôl yr awdurdodau, hwn yw’r tân gwaethaf y bu’n rhaid i ddiffoddwyr ymdrin ag e yn y wlad ers 30 o flynyddoedd.

Cafodd pebyll eu codi o gwmpas y diffoddwyr tân er mwyn ceisio’u hamddiffyn  rhag y fflamau.

Lledodd y tân oherwydd gwyntoedd cryfion yn Yarnell a Glen Isla.

Cafodd oddeutu 200 o gartrefi eu difrodi.

Roedd y fflamau’n dal ynghyn dros nos tuag 85 milltir i’r gogledd-orllewin o Phoenix.

Does dim adroddiadau hyd yma bod unrhyw un arall wedi’i anafu na’i ladd.

Mewn datganiad, dywedodd llywodraethwr y dalaith, Jan Brewer: “Hwn yw’r diwrnod duaf rwy’n ei gofio.

“Fe all fod yn ddyddiau neu’n hirach cyn i archwiliad ddangos sut y digwyddodd y trychineb hwn, ond gwn yn ein calonnau beth yw’r hanfod: mae brwydro yn erbyn tân yn waith peryglus.”

Erbyn hyn, mae 130 o ddiffoddwyr tân wedi cael eu galw i gynorthwyo’r gwaith o ddiffodd gweddill y fflamau.