Kim Jong Un
Mae bygythiadau niwclear Gogledd Korea wedi achosi i’r Unol Daleithiau gymryd cam at gymodi â China.

Ar ôl degawdau o gefnogi Gogledd Korea yn economaidd ac yn ddiplomyddol, fe gyhoeddodd llywodraeth China ddoe ei bod hi’n “anffodus” eu bod nhw’n bygwth ymosod ar Dde Korea a’r Unol Daleithiau.  

Ac mewn cam annisgwyl iawn, mae’r Unol Daleithiau wedi croesawu’r newid ym mholisi China.

“Rwy’n credu fod China yn gweld fod gweithredoedd Gogledd Korea yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd diwetha’ wedi bod yn wrthgynhyrchiol,” meddai cyn Ddirprwy Ysgrifennydd Gwladol America, Kurt Campbell.