Mae dyn wedi saethu dyn arall yn farw mewn canolfan gofal dydd yn Quebec, cyn troi’r gwn arno’i hun.
Fe gafodd 53 o blant eu cludo o’r adeilad heb eu hanafu, ond mae’r heddlu’n credu bod rhai ohonyn nhw wedi gweld y saethu.
Fe gafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiadau fod dyn arfog yn bygwth pobol.
Ond erbyn iddyn nhw gyrraedd y ganolfan, fe ddaethon nhw o hyd iddo’n farw gyda’r gwn wrth ei ymyl, ynghyd â chorff gweithiwr yn y ganolfan ddydd.
Mae’r heddlu bellach yn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng y dynion, a’r posibilrwydd o drais yn y cartre’.