Chicago - dinas lle mae trais rhwng gangiau ar gynnydd
Mae detectifs yn holi dau ddyn – 18 a 20 oed – wedi i ferch 15 oed gael ei saethu’n farw mewn parc yn Chicago.
Fe fu gwraig yr Arlywydd Obama yn angladd Hadiya Pendleton ddydd Sadwrn, gan gysuro mam y ferch a gafodd ei lladd ar Ionawr 29.
Roedd hi’n byw filltir yn unig o gartre’r Arlywydd yn Chicago, a’r gred yw ei bod yn un o ddioddefwyr diniwed trais rhwng gangiau yn y ddinas.
Fe gafodd y ddau ddyn eu dwyn i’r ddalfa yn oriau mân fore Sul, a dydyn nhw ddim wedi cael eu cyhuddo eto.