Mae dau o bobol wedi cael eu lladd yn Kashmir mewn pocedi o drais yn dilyn crogi terfysgwr yn ninas New Delhi fore Sadwrn.

Mae’r trais yn parhau wedi i’r gwr o Kashmir gael eu ddedfrydu i farwolaeth tros ymosodiad ar senedd India yn 2001.

Fe gafodd Mohammed Afzal Guru ei grogi yn fuan fore Sadwrn. Wedi hynny, fe orchmynodd llywodraeth India y dylai pobol y rhanbarth aros yn eu tai dros dro. Roedden nhw’n rhagweld protestiadau.

Ond er cyhoeddi’r cyrffiw, ddydd Sul, fe fu cannoedd o bobol yn protestio’n erbyn rheolaeth India. Fe ddaethon nhw ben-ben â lluoedd India.

Ym mhentre’ Watergam ger tre’ Sopore, lle’r oedd Guru’n byw, fe gafodd beth bynnag 4 o bobol eu hanafu, un yn ddifrifol, wrth i heddlu a milwyr danio nwy dagrau a bwledi er mwyn gwasgaru’r dorf.