Mae dros 30 o bobol wedi marw mewn torfeydd enfawr mewn gorsaf drenau yng ngogledd India. Roedd miliynau o bererinion wedi ymgasglu yno ar gyfer gwyl Hindwaidd.

Mae swyddogion ysbyty wedi cadarnhau fod 23 o’r meirw yn fenywod, a bod o leia’ 30 o bererinion eraill wedi eu hanafu yn y rhuthr ym mhrif orsaf dinas Allahabad.

Roedd degau o filoedd o bobol yng ngorsaf Allahabad pan gwympodd pont gerdded dan bwysau’r dorf. Fe arweiniodd hynny at ruthr yn hwyr neithiwr.