Fe fydd llywodraeth San Steffan yn cyhoeddi barn gyfreithiol heddiw ar safle’r Alban o fewn y Deyrnas Gyfuno.
Fe ddaw’r adroddiad flwyddyn a hanner cyn y refferendwm annibyniaeth.
Mae arbenigwyr wedi awgrymu na fyddai’r Alban yn dal gafael ar yr un hawliau a phwerau pe bai’r wlad yn pleidleisio ‘Ie’ yn 2014.
Mae’r ddogfen wedi’i llunio yn dilyn gwaith ar draws holl adrannau Whitehall, ac mae’n ceisio egluro sut y byddai’r Alban a gweddill gwledydd Prydain yn elwa o aros o fewn yr ‘undeb’ presennol.