Madeleine McCann - diflannodd yn 2007
Fe fydd tad Madeleine McCann yn herio gweinidogion heddiw, er mwyn ceisio gwneud yn siwr y bydd sustem newydd o reoli’r wasg yn derbyn cefnogaeth gyfreithiol.

Mae Gerry McCann wedi ennill achosion yn erbyn nifer o bapurau newydd oherwydd y modd y buon nhw’n adrodd ar ddiflaniad ei ferch tra ar wyliau ym Mhortiwgal yn 2007.

Mae’n mynnu ei fod ef, a’i wraig, Kate, wedi bod “yn ddigon anlwcus i ddiodde’ popeth y gallai’r wasg ei daflu” atyn nhw.

“Y rheswm pam gytunon ni i fynd trwy’r artaith o roi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson, oeddd oherwydd nad ydyn ni am i neb arall fynd trwy’r hyn yr aethon niw trwyddo.”