Gweddillion awyren Pan Am a ffrwydrodd dros Lockerbie
Fe fydd plismyn o Brydain, sy’n ymchwilio i ymosodiad bom Lockerbie, yn ymweld â Libya, fe gyhoeddwyd heddiw.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Tripoli, fe gyhoeddodd David Cameron bod  plismyn o heddlu Dumfries a Galloway wedi cael caniatâd i ymweld â’r wlad.

Mae Cameron wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Phrif Weinidog Libya Ali Zeidan yn ystod ei ymweliad a’r wlad.

Mae disgwyl i’r plismyn deithio i Libya ym mis Mawrth. Dyma fydd y tro cyntaf i’r heddlu gael caniatâd i ymweld â’r wlad fel rhan o’r ymchwiliad.

Bu farw 270 o bobl ar 21 Rhagfyr 1988 pan ffrwydrodd awyren Pan Am wrth hedfan dros Lockerbie. Roedd yr awyren yn teithio o Lundain i Efrog Newydd a bu farw 259 o bobl ar fwrdd yr awyren, ac 11 o drigolion Lockerbie.

Yn 2001 cafwyd Abdelbaset al-Megrahi yn euog o lofruddiaeth dorfol a chafodd ei ddedfrydu i garchar am oes.

Cafodd ei ryddhau wyth mlynedd yn ddiweddarach am ei fod yn dioddef o ganser a bu farw ym mis Mai’r llynedd yn ei gartref yn Tripoli.

Ym mis Rhagfyr y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Libya ei fod yn barod i ryddhau’r holl ddogfennau yn ymwneud a’r ymosodiad.