Terfysg Belffast ( llun PA)
Fe wnaeth protestwyr ymosod ar yr heddlu ar strydoedd Belffast neithiwr wrth i’r protestio am chwifio baner Jac yr Undeb barhau yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd yr heddlu yn ymateb i derfysg yn nwyrain y ddinas pan wnaeth tua chant o Unoliaethwyr ymosod arnyn nhw efo bomiau petrol, tân gwyllt a brics.

Cafodd un gwr 38 oed ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl adoddiadau o saethu ar yr heddlu.

Fe wnaeth yr heddlu ymateb i’r terfysg trwy ddefnyddio canon dwr a saethu  bwledi rwber a phlastig.

Digwyddodd yr ymladd a’r terfysg yn dilyn protest gan tua 1,000 o Unoliaethwyr y tu allan i Neuadd y Ddinas yn ystod y dydd yn erbyn penderfyniad cyngor y brifddinas i chwifio Jac yr Undeb dim ond ar achlysuron penodol.

Cafodd 18 o bobl eu harestio nos Wener wedi terfysg gan hyd at 300 o brotestwyr yn y ddinas ac fe gafodd naw o swyddogion yr heddlu eu anafu pryd hynny ond yr un yn ddifrifol.