Y Prif Weinidog David Cameron (o wefan Rhif 10)
Mae Prydain ar y trywydd iawn a gall edrych ymlaen yn hyderus at 2013, yn ôl y Prif Weinidog David Cameron yn ei neges Flwyddyn Newydd.

Gan gydnabod i 2012 fod yn flwyddyn anodd i lawer o deuluoedd, mae’n cyfaddef nad oes ganddo unrhyw atebion rhwydd i broblemau economaidd Prydain.

“Ar yr holl faterion mawr sy’n bwysig i Brydain rydym ar y trywydd iawn ac mae gen i’r dystiolaeth i brofi hynny,” meddai.

“Rydym yn gwneud cynnydd mesuradwy, rydym yn gwneud yr hyn sy’n iawn i’n gwlad a’r hyn sydd orau i ddyfodol ein plant.”

Dywedodd fod dyled y wlad chwarter yn llai na’r hyn oedd pan ddaeth y llywodraeth glymblaid i rym, hanner miliwn yn fwy o bobl mewn gwaith a miliynau’n llai o weithwyr ar dâl isel yn gorfod talu treth incwm.

‘Ras fyd-eang’

“Mae Prydain mewn ras fyd-eang i lwyddo heddiw,” meddai. “Mae’n ras gyda gwledydd fel China, India ac Indonesia; ras am swyddi a chyfleoedd y dyfodol.

“Felly pan ddywed pobl y gallwn ni arafu wrth dorri ein dyledion, rydym yn dweud na. Allwn ni ddim ennill yn y byd yma gyda maen melin enfawr o ddyledion am ein gyddfau. Pan ddywed pobl fod yn rhaid inni roi’r gorau i’n diwygiadau mewn budd-daliadau gan ei fod yn greulon disgwyl i bobl weithio, rydym yn dweud na. Mae cael pobl i swyddi da’n hanfodol, nid dim ond iddyn nhw, ond i bawb ohonon ni.”

Mae ei sylwadau wedi cael eu dirmygu gan y Blaid Lafur.

“Mwy o’r un peth yw hyn gan David Cameron,” meddai is-gadeirydd Llafur, Michael Dugher.

“Mae’n sôn am bobl sy’n gweithio’n galed yn y wlad yma, ond ef yw’r un sy’n taro teuluoedd sy’n gweithio’n galed ar gyflogau isel a chanolig tra’n torri trethi i filiwnyddion. Mae David Cameron  yn sefyll dros hen ddulliau’r Torïaid yn y gorffennol o rannu a rheoli.”