Mae Archesgob Caergaint wedi cefnogi rheolau llymach ar arfau a gynnau, yn dilyn achos Sandy Hook yn yr Unol Daleithiau.

Mae faint o gynnau sydd ar gael i’w prynu, yn gwthio pobol at drais, meddai wedyn, wrth draddodi sgwrs ‘Thought for the Day’ ar Radio 4 heddiw.

Rhybuddiodd hefyd na allai gwledydd Prydain “fod yn rhy ddi-hîd” am y diwylliant gwn a chyllell sy’n effeithio pobol ifanc yr ochr yma i Fôr Iwerydd.

“Mae’n anodd dweud a chanu geiriau’r tymor ewyllys da tra’r ydyn ni’n meddwl am fywydau sydd wedi eu cwtogi’n greulon, a’r golled a’r trawma y mae’r rhieni’n ei brofi.

“Mewn dwy flynedd, mae bron i 6,000 o blant a phobol yn eu harddegau wedi eu laldd gan gynnau yn yr Unol Daleithiau,” meddai Rowan Williams wedyn.

“Yng ngwledydd Prydain, y cwestiwn yw, sut ydyn ni’n ymladd diwylliant gangiau. Mae’n rhaid rhoi i bobol ifanc yr hunan-barch y maen nhw’n ei haeddu, fel nad ydyn nhw’n mynd i chwilio amdano mewn llefydd a phethau dinistriol.

“Yn yr Unol Daleithiau, y prif fater, wrth gwrs, yw cyflwyno cyfreithiau er mwyn rheoli gynnau – un o’r pethau sy’n rhannu pobol yn fwy nac un dim arall.

“Mae pobol yn defnyddio gynnau,” meddai, “ond mae gynnau yn defnyddio pobol hefyd. Pan mae technoleg dreisgar ar gael mor rhwydd, mae’n bosib i ninnau gael ein cyflyru i ymddwyn yn dreisgar.

“Pan mai gwn yw’r unig beth sydd gyda chi, mae popeth arall yn edrych fel targed. Ond os ydych chi’n edrych ar y byd fel plentyn, yn agored ac â chariad, mae yna addewid ym mhopeth.”