Mae adroddiad gan ymddiriedolaeth sy’n wleidyddol annibynnol yn dweud nad oes pwrpas ariannol i ddau riant weithio mewn sawl teulu oherwydd costau uchel gofal plant.

Bydd adroddiad “Counting the Costs of Childcare” gan y Resolution Foundation yn cael ei gyhoeddi yn swyddogol yfory ond mae yna adroddiad am y cynnwys yn yr Observer heddiw.

Yn ôl yr adroddiad, ychydig iawn o fudd ariannol sydd yna i ail riant fynd allan i weithio.  Os yw’r ail riant yn ennill dim ond yr isafswm cyflog yna gall y teulu elwa o dim ond £4 yr wythnos o gyfanswm y ddau incwm.

Os yw’r ddau riant yn ennill cyfanswm o £44,000 y flwyddyn yna bydd y teulu ar ei ennill o dim ond £4000 o’i gymharu a theulu cyffelyb sy’n ennill cyfanswm o £20,000 a hynny oherwydd effaith budd-daliadau, treth, credydau treth a chostau gwarchod plant.

Mae Vida Alakeson yn ddirprwy brif weithredwr Resolution ac yn gyd-awdur yr adroddiad.

“Mae hyn yn achosi pryder difrifol oherwydd bod y cynnydd diweddar yn nifer y merched sy’n gweithio yn un factor pwysig i sicrhau bod safon byw teuluoedd yn gwella. Mae angen newid sylweddol yn y drefn gofal plant i sicrhau bod mynd allan i weithio wastad yn fuddiol – a bod gweithio gor-amser neu cael codiad cyflog yn golygu mwy o arian i’r cartref.”