Gormydeithio heibio Eglwys St Patrick
Mae miloedd o bobl wedi gorymdeithio o Belfast i Stormont ar gyfer prynhawn o ddathliadau i nodi canrif ers arwyddo Cyfamod Ulster, sef y ddogfen oedd yn sylfaen i’r drefn rannodd Iwerddon gan arwain at greu Gogledd Iwerddon ddegawd yn ddiweddarach.
Yr Urdd Oren, sy’n cynrychioli’r Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi trefnu’r dathliadau heddiw.
Aeth y gorymdeithwyr heibio Eglwys Babyddol St Patrick ar Stryd Donegall yn ddi-drafferth er bod trigolion yr ardal yn Carrick Hill wedi honni y buasai canu emynau unoliaethol wrth fynd heibio’r eglwys yn sicr o godi gwrychyn rhai.
Yn ôl un o ohebwyr y BBC fe wnaeth bandiau Yr Urdd Oren ddechrau chwarae ‘Onward Christian Soldiers’ ac ‘Abide with Me’ wrth gerdded heibio’r eglwys.
Cafodd saith swyddog heddlu eu hanafu yn yr union fan fis yn ôl wedi i ymladd ddigwydd ar ôl i sawl band unoliaethol fynd yn groes i orchymun y Comisiwn Gorymdeithio a chwarae cerddoriaeth wrth gerdded heibio’r eglwys.
Fe wnaeth y garfan unoliaethol ‘The Royal Black Institution’ ymddiheuro am unrhyw amharch i’r offeiriad a phlwyfolion St Patrick yn ddiweddarach.
Gwrthododd yr Uchel Lys yn Belfast gais ddoe gan drigolion sy’n byw yn agos i’r eglwys am waharddiad llys i atal yr orymdaith ac fe wnaeth y barnwr hefyd gyfyngu unrhyw brotest i 150 o bobl.
Dr David Hume yw cyfarwyddwr gwasanaethau yr Urdd Oren a dywedodd “Fe fydd heddiw yn ddigwyddiad o bwys ac yn ddiwrnod i’r teulu yn llawn mwynhad a dathliadau. Yr ydym yn edrych ymlaen i groesawu pobl o bob cwr o Ogledd Iwerddon a thu hwnt.”
Ceisio Gwaharddiad
Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi dweud y byddan nhw’n gweithio yn galed i sicrhau y bydd yr orymdaith yn heddychlon.
“Rwy’n gwybod mai dyma yw dymuniad y mwyafrif llethol ar draws pob cymuned,” meddai’r Prif Gwnstabl Matt Baggott. “Rwy’n gofyn am gydweithrediad llawn efo’r heddlu i gadw pawb yn ddiogel”.
Dywedodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers, ei bod hi yn parhau yn bryderus am yr hyn allai ddigwydd dros y Sul.
“Mae yna ymdrech enfawr wedi mynd i geisio sicrhau bod hyn yn achlysur all gael ei goffau mewn modd parchus a goddefgar,”meddai.