Andrew Mitchell
Mae cofnodion  swyddogol yr heddlu i’r anghydfod rhwng y Brif Chwip Andrew Mitchell a phlismyn yn Downing Street yn dangos ei fod wedi eu galw’n “plebs”.

Mae’r cofnodion, sy’n cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf gan y Daily Telegraph, yn dangos bod Andrew Mitchell wedi gwrthod ufuddhau i geisiadau’r heddlu ac wedi rhegi atyn nhw.

Mae’r Brif Chwip wedi ymddiheuro am beidio dangos  parch tuag at y plismyn ond mae’n gwadu defnyddio’r geiriau yr honnir iddo ddweud.

Fe ddechreuodd y ffrae pan wrthododd y plismyn adael i Andrew Mitchell seiclo drwy glwydi Downing Street wythnos diwethaf.