Mae’r chwilio’n parhau heddiw am ferch ysgol 15 oed sydd, mae’n debyg, wedi ffoi gyda dyn 30 oed sy’n un o’i hathrawon.

Roedd yr heddlu wedi apelio ar Jeremy Forrest a Megan Stammers i gysylltu â nhw ar ôl dianc i Ffrainc.

Credir bod Jeremy Forrest yn athro mathemateg yn yr un ysgol a Megan, sef Ysgol Eglwys Loegr Bishop Bell yn Eastbourne, yn Sussex.