Dale Cregan
Mae Dale Cregan wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion y bore yma.
Mae e wedi ei gyhuddo o ladd pedwar o bobl mewn tri digwyddiad gwahanol.
Cafodd Nicola Hughes a Fiona Bone eu llofruddio ddydd Mawrth wrth ymateb i alwad mewn tŷ yn Hattersley, Manceinion. Ymosodwyd arnyn nhw gyda gwn a grenadau.
Mae Dale Cregan hefyd wedi ei gyhuddo o lofruddio tad a mab, David a Mark Short, mewn digwyddiadau ar wahân yn gynharach eleni.
Yn ogystal, mae e’n wynebu pedwar cyhuddiad o geisio llofruddio.
Bydd e’n ymddangos gerbron Llys y Goron Manceinion ddydd Llun.