Fiona Bone a Nicola Hughes, dde
Mae’r heddlu ym Manceinion yn dal i holi dyn ynglŷn â llofruddiaeth dwy blismones “mewn gwaed oer”.

Cafodd Fiona Bone, 32, a Nicola Hughes, 23 eu hanfon i’r tŷ ar ôl derbyn adroddiadau am fyrgleriaeth. Dywed Heddlu Manceinion bod Dale Cregan, 29, wedi ymosod arnyn nhw gyda gwn a grenâd.

Dywedodd Prif Gwnstabl yr Heddlu Syr Peter Fahy: “Mae’n ymddangos bod Cregan wedi gwneud hyn yn fwriadol ac wedi eu llofruddio mewn gwaed oer.”

Rhyddhau ar fechniaeth

Yn fuan wedyn roedd Cregan wedi ildio ei hun i’r heddlu. Mae’n ymddangos bod Cregan wedi cael ei arestio ym mis Mehefin mewn cysylltiad â llofruddiaeth arall ond wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Mae Heddlu Manceinion wedi amddiffyn y penderfyniad i’w ryddhau ar fechnïaeth gan ddweud bod hynny’n gwbl naturiol mewn achosion cymhleth o’r fath pan nad oedd digon o dystiolaeth i gyhuddo rhywun.

Arfogi plismyn

Yn y cyfamser mae pennaeth Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) wedi rhybuddio yn erbyn rhuthro i alw am arfogi plismyn.

Dywedodd Syr Hugh Orde “nad yw gynnau o angenrheidrwydd yn datrys y broblem.”

Ychwanegodd bod yn well gan blismyn beidio cael eu harfogi gan nad yw’r cyhoedd yn hoffi mynd at swyddogion sy’n arfog.

Oherwydd natur y swydd mae plismona yn “peri risg” meddai “ac ambell waith mae pethau, yn drasig, yn mynd o’i le.”