Dug a Duges Caergrawnt
Mae’r cylchgrawn Eidalaidd ‘Chi’ yn bwriadu cyhoeddi y lluniau bron-noeth o Dduges Caergrawnt mewn atodiad arbennig yr wythnos nesaf.

Cafodd y lluniau eu tynnu efo lens arbennig o bwerus tra roedd y Dug a’r Dduges ar wyliau preifat mewn castell sy’n eiddo i’r Arglwydd Linley, nai y Frenhines.

Mae Palas St James wedi dweud bod y cyhoeddi yn atgoffa rhywun o weithrediadau gwaethaf y wasg a’r paparazzi yn ystod bywyd Diana, Tywysoges Cymru a mam y Tywysog William ac mae golygyddol y Sun heddiw yn datgan na fuasai “unrhyw bapur Prydeinig gwerth ei halen yn cyffwrdd y lluniau” am eu bod yn “afresymol o fusneslyd”.

Fe wnaeth y cylchgrawn Ffrengig ‘Closer’ gyhoeddi lluniau bron-noeth o’r Dduges yn torheulo ar ei gwyliau ddoe ac mae’r Dduges a’i gwr, y Tywysog William eisoes wedi cychwyn y broses o fynd i gyfraith yn erbyn y cylchgrawn am ymyrryd yn eu preifatrwydd.

Dywedodd golygydd ‘Chi’ Alfonso Signorini bod y ffaith y bydd y ddau yn terynasu yn Lloegr yn y dyfodol yn gwneud yr erthygl yn gyfoes ac yn fwy diddorol.

“Mae’r pwnc yn haeddu sylw am ei fod yn dangos mewn modd naturiol bywyd bob dydd cwpwl enwog, ifanc a modern sydd mewn cariad,” meddai.

Berlusconi

Cyn Brif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlsuconi sydd piau cwmni Mondadori sydd yn cyhoeddi’r ddau gylchgrawn yma.

Nid yw golygydd y cylchgrawn Ffrengig yn edifarhau cyhoeddi’r lluniau. Mewn cyfweliad ar orsaf radio yn Ffrainc, dywedodd Laurence Pieau nad oes unrhwy beth israddol am y lluniau. “Mae nhw’n dangos merch ifanc yn torheulo yn fron-noeth, yn union fel miliynau o ferched led led y byd,”meddai.