Mae un o gorgwn y Frenhines wedi marw, meddai Palas Buckingham.

Ymddangosodd Monty yn y sgetsh James Bond a ddarlledwyd yn ystod seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd.

Roedd Monty yn 13, ac yn wreiddiol yn eiddo i’r Fam Frenhines. Mae dau gorgi arall, Willow a Holly, yn byw yn y palas.

Mae’r Teulu Brenhinol wedi cadw corgwn ers i George VI brynu’r cyntaf yn 1933.

Mae’r brîd yn hanu o Sir Benfro.