Tanwydd Prydain yw’r drutaf yn Ewrop, yn ôl cwmni moduro’r AA, ac maen nhw’n galw am greu swydd newydd i reoleiddio’r prisiau.

Maen nhw hefyd wedi galw ar y Canghellor i newid ei feddwl a pheidio â chodi’r dreth ar danwydd yn y gwanwyn.

Mae pris tanwydd wrth y pwmp wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed ym Mhrydain erbyn hyn, gan anwybyddu’r gostyngiad pris ar y farchnad Ewropeaidd, meddai’r AA.

Mae pris petrol wedi cyrraedd cyfartaledd o 128.81 ceiniog y litr erbyn hyn – i fyny 0.54 ceiniog ers canol Ionawr.

Mae pris disel hefyd wedi cyrraedd uchelfannau newydd, ar gyfartaledd o 134.01 ceiniog y litr – cynnydd o 1.26 ceiniog. Ond mae wedi croesi 136 ceiniog mewn rhannau o gefn gwlad Cymru.

Yn ôl yr AA, fyddai’r cynnydd mewn Treth ar Werth ddim wedi effeithio ar bris tanwydd, pe bai’r gostyngiad yn y pris yn Ewrop wedi digwydd yng ngwledydd Prydain hefyd.

Galw am ‘reoleiddiwr pris tanwydd’

Mae’r AA nawr yn galw ar ddileu’r cynnydd mewn treth ar danwydd ar Ebrill 1, ac yn galw ar y llywodraeth i sefydlu rheoleiddiwr prisiau – fel sy’n bod eisoes ym maes ynni cartref.

Fe fyddai’r rheoleiddiwr yn cysylltu rhwng y marchnadoedd, y gwerthwyr tanwydd a’r cwsmeriaid, er mwyn egluro symudiadau mewn pris a gwahaniaethau rhwng trefi cyfagos,” meddai’r cwmni.

Maen nhw hefyd eisiau gweld cyhoeddi manylion am y prisiau cyfanwerthu a’r prisiau wrth y pwmp.