Mae bron i hanner miliwn o bobol wedi cefnogi’r ymgyrch sy’n galw ar Lywodraeth San Steffan i gadw gwasanaethau’r DVLA yn y Swyddfa Bost.

Ac mae yna gefnogaeth fawr i hynny yng Nghymru, yn ôl arolwg barn – byddai’n golygu bod modd o hyd i brynu disgiau treth a chael ffurflenni eraill yn y llythyrdai.

Yn Nhhreforys, Abertqawe, y mae prif swyddfa’r DVLA, y gwasanaeth trwyeddedu

O fewn pythefnos i lansio’r ymgyrch, mae Ffederasiwn Cenedlaethol y Swyddfeyd Post wedi derbyn bron i 500,000 o lofnodion yn datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch.

Mae pryderon y bydd miloedd o swyddfeydd post yn cau  os na fydd y Swyddfa Bost yn sicrhau cytundeb y DVLA sydd werth £60m y flwyddyn.

“Cefnogaeth anferth”

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr NFSP, George Thompson, “Mae’r gefnogaeth anferth gan y cyhoedd i’n hymgyrch yn dangos fod gwasanaethau llywodraethol fel y DVLA yn hanfodol i gwsmeriaid y Swyddfa Bost.

“Mae’n rhaid i gytundeb y DVLA gael ei roi’n ecsgliwsif i’r Swyddfa Bost. Os ddim, byddai hynny’n gatastroffig i’n swyddfeydd post, ac yn gadael polisi’r llywodraeth o ddefnyddio’r Swyddfa Bost fel ‘swyddfa ffrynt ein llywodraeth’ ar chwâl,” ychwanegodd.

Yn ôl pôl piniwn, mae 88% o Gymry’n credu ei bod hi’n bwysig fod gwasanaethau disgiau treth a thrwyddedau gyrru yn parhau mewn swyddfeydd post.

Rhai ystadegau:

  • 88% o bobol yng Nghymru yn dweud ei bod hi’n bwysig fod gwasanaethau disgiau treth cerbydau a thrwyddedau gyrru’n aros yn y swyddfeydd post (o gymharu ag 86% ar draws Prydain gyfan)
  • 90% yng Nghymru’n dweud ei bod hi’n bwysig i allu cael gwasanaeth wyneb yn wyneb wrth wneud cais am bethau fel pasborts, pensiwn a budd-daliadau (o gymharu â 89% ledled Prydain)
  • 64% o bobol yng Nghymru’n dweud y bydden nhw, neu rywun y maen nhw’n eu hadnabod yn cael eu heffeithio os na fyddai gwasanaethau’r DVLA ar gael yn y Swyddfa Bost

 Streic

Yn gynharach y mis yma, aeth gweithwyr y DVLA a’r Adran Drafnidiaeth ar streic oherwydd ffrae dros swyddi, cau swyddfeydd, tâl a phreifateiddio.

Yn ôl yr Undeb Gwasanaethau Masnachol a Chyhoeddus mae 1,200 o swyddi’r DVLA dan fygythiad oherwydd cynlluniau Llywodraeth Prydain i gau swyddi a throsglwyddo’r gwaith i bencadlys y DVLA yn Abertawe.