Tia Sharp
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad y ferch ysgol Tia Sharp wedi cyhuddo partner ei mam-gu o’i llofruddio hi.

Fe fydd Stuart Hazell, 37, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon yfory wedi ei gyhuddo o ladd y ferch 12 oed, a aeth ar goll yn New Addington, de Llundain, dros wythnos yn ôl.

Mae ei mam-gu Christine Sharp wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth yn dilyn ei harestio ar amheuaeth o lofruddio, meddai Scotland Yard.

Mae’r heddlu hefyd wedi rhyddhau cymydog drws nesaf Tia Sharp ar fechnïaeth wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio. Arestiwyd Paul Meehan, 39, ar amheuaeth o helpu troseddwr.

Roedd yr heddlu wedi arestio’r tri dydd Gwener ar ôl dod o hyd i’r corff y tu mewn i’r tŷ y mae Hazell yn ei rannu â Christine Sharp, 46, yn The Lindens.